Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 10 Ionawr 2018

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
4895


110

------

<AI1>

Datganiad y Llywydd

Croesawodd y Llywydd Lysgennad newydd Iwerddon i’r Deyrnas Unedig, Adrian O’Neill, ar ei ymweliad â'r Cynulliad Cenedlaethol.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Dechreuodd yr eitem am 14.20

Gofynnwyd y 4 cwestiwn.

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

Dechreuodd yr eitem am 14.37

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr argyfwng yn y GIG y gaeaf hwn, yn sgil adroddiadau bod gwasanaethau wedi’u hymestyn i’r eithaf?

Gofyn i Brif Weinidog Cymru (atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid):

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith Bil Ymadael yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru o ystyried na chyflwynwyd gwelliannau yn ymwneud â datganoli i'r Bil gan Lywodraeth y DU?

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyhoeddiad y bore yma o gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer Morlyn Llanw Bae Abertawe?

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr eitem am 15.20

Gwnaeth Jane Hutt ddatganiad yn talu teyrnged i gaplan rheilffyrdd ieuengaf y Deyrnas Unedig, Hannah Tuck o’r Barri.

</AI5>

<AI6>

Pwynt o Drefn

Dechreuodd yr eitem am 15.22

Gan gyfeirio at Bwynt o Drefn a gododd ar 13 Rhagfyr 2017, ymddiheurodd Gareth Bennett am y tramgwydd a achoswyd gan sylwadau a wnaeth ar 12 Rhagfyr 2017 yn y Siambr. Gwnaeth yn glir ei barch tuag at awdurdod y Llywydd fel Cadeirydd; ond roedd yn cadw at y farn a fynegodd.

Derbyniodd y Llywydd ymddiheuriad Gareth Bennett, a sicrhaodd fod gan unrhyw Aelod yr hawl i fynegi safbwyntiau sy’n annymunol i’r Aelodau eraill ac i eraill, ar yr amod y defnyddir iaith seneddol ac anwahaniaethol wrth wneud hynny.

</AI6>

<AI7>

5       Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Y Llanw'n Troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig

Dechreuodd yr eitem am 15.23

NDM6620 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, 'Y Llanw’n troi? Adroddiad ar yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Awst 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI7>

<AI8>

6       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.16

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6619 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi anallu y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru i ymdopi â'r lefel bresennol o alw gan fodurwyr.

2. Yn gresynu bod seilwaith ffyrdd is-safonol Cymru yn costio cannoedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn i economi Cymru.

3. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol rwydwaith ffyrdd addas at y diben ac sy'n gweithredu'n briodol ar gyfer datblygiad tymor hir economi Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i edrych ar ffyrdd arloesol o gyllido prosiectau ffyrdd yn y dyfodol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

35

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith ffyrdd dibynadwy ac effeithiol fel rhan o system drafnidiaeth amlfoddol integredig a chynaliadwy sy’n gallu cynnal economi a chymunedau Cymru.

2. Yn nodi bod y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol y mae Llywodraeth Cymru newydd ei gyhoeddi yn gosod allan rhaglen o welliannau i’r ffyrdd, rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol fel rhan o gynllun buddsoddi cytbwys a chynaliadwy mewn trafnidiaeth.

3. Yn cydnabod cynllun Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen pum mlynedd o gyllid cyfalaf i drafnidiaeth i gefnogi buddsoddiad yn y seilwaith ffyrdd, rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru’n cael ei chyfran deg o fuddsoddiad y DU mewn seilwaith ac i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried ffyrdd arloesol o gyllido prosiectau yn y dyfodol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu er mwyn cysylltu cymunedau Cymru yn well, gwella ansawdd y teithiau i gymudwyr a datblygu economi Cymru, fod angen buddsoddiad priodol ym mhob modd o deithio, nid ffyrdd yn unig, gan gynnwys rheilffyrdd, bysiau, teithio awyr a dros ddŵr.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

1

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at fwriad Llywodraeth Cymru i ymrwymo ei holl gyllideb fenthyca cyfalaf i adeiladu 'llwybr du' yr M4.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

17

26

53

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM6619 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi anallu y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru i ymdopi â'r lefel bresennol o alw gan fodurwyr.

2. Yn gresynu bod seilwaith ffyrdd is-safonol Cymru yn costio cannoedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn i economi Cymru.

3. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol rwydwaith ffyrdd addas at y diben ac sy'n gweithredu'n briodol ar gyfer datblygiad tymor hir economi Cymru.

4. Yn credu er mwyn cysylltu cymunedau Cymru yn well, gwella ansawdd y teithiau i gymudwyr a datblygu economi Cymru, fod angen buddsoddiad priodol ym mhob modd o deithio, nid ffyrdd yn unig, gan gynnwys rheilffyrdd, bysiau, teithio awyr a dros ddŵr.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i edrych ar ffyrdd arloesol o gyllido prosiectau ffyrdd yn y dyfodol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

24

53

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI8>

<AI9>

7       Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.18

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6621 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu'r 'angen blaenoriaethol' o fewn y system digartrefedd a rhoi dyletswydd yn ei le i ddarparu llety i bob person digartref ni waeth pam eu bod yn ddigartref, fel rhan o'r broses o symud tuag at bolisi 'tai yn gyntaf'.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

43

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu pob dim a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r effaith gadarnhaol y mae fframwaith statudol Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 wedi’i chael yn peri i’r system ddigartrefedd ganolbwyntio ar atal digartrefedd a’r sylfaen gref y mae hyn yn ei rhoi ar gyfer camau gweithredu pellach.

2. Yn cydnabod y pwysau cynyddol ar y system a phroblemau penodol i rai grwpiau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried diddymu'r 'angen blaenoriaethol' o fewn y system digartrefedd a rhoi dyletswydd yn ei le i ddarparu cynnig o lety addas i bob person digartref ni waeth pam eu bod yn ddigartref, fel rhan o'r broses o symud tuag at ddull cynhwysfawr o geisio dod â digartrefedd i ben yng Nghymru, sy’n cynnwys polisi 'tai yn gyntaf'.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu popeth cyn “fel rhan o'r broses o symud tuag at bolisi 'tai yn gyntaf'” a rhoi yn ei le:

"Yn nodi â phryder y cynnydd mewn digartrefedd yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn trawsbleidiol i gytuno ar strategaeth ddigartrefedd i gynnwys dod â chysgu ar y stryd i ben erbyn 2020,"

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

35

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

</AI9>

<AI10>

8       Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 18.20

</AI10>

<AI11>

</AI11>

<AI12>

9       Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 18.26

NDM6615 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Galw am siarter ar gyfer urddas wrth ymddeol a diogelwch pobl hŷn

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 18.56

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 16 Ionawr 2018

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>